Country - Report - Wales - Cym

Adroddiad Gwlad ar gyfer LAT - Cymru

 

Mae Cymru mewn sefyllfa anarferol yn ieithyddol; mae gennym iaith draddodiadol hynafol a ystyriwyd  yn annilys yn 1847 gan “Frad y Llyfrau Gleision”.  Y Gymraeg yw iaith hanesyddol y wlad erioed. Yn 1588, cyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg gan Wiliam Morgan, Esgob Llandaf. Daeth cyfieithu’r Beibl â llythrennedd i’r Cymry. Saesneg oedd iaith y gyfraith a’r llys ond Cymraeg oedd iaith y bobl.

Yn ystod y 19eg Ganrif, dechreuwyd defnyddio’r “Welsh Not”. Cysylltir y cyfnod hwn â’r symbol mwyaf atgas o orthrwm diwylliannol y Saeson, y Welsh Not neu’r Welsh Note, sef ffordd o orfodi plant Cymraeg i siarad Saesneg drwy’r amser yn yr ysgol. Câi unrhyw blentyn a glywid yn siarad Cymraeg yn yr ysgol ei orfodi i wisgo darn o bren neu lechen, a drosglwyddid i bwy bynnag fyddai’r nesaf i siarad yr iaith tan ddiwedd y dydd.  Bryd hynny, gallai'r plentyn a oedd yn gwisgo’r WELSH NOT gael ei guro.

Yn 1942 rhoddodd Deddf Llysoedd Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llys barn am y tro cyntaf.

Roedd Deddf yr Iaith Gymraeg yn seiliedig ar adroddiad Hughes Parry i statws y Gymraeg, a gyhoeddwyd ym 1965.  Roedd yr adroddiad yn dadlau o blaid rhoi dilysrwydd cyfartal i’r Gymraeg ar lafar ac mewn dogfennau ysgrifenedig, yn y llysoedd ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.  Esgorodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 ar y cysyniad o ‘ddilysrwydd cyfartal’ i’r Gymraeg a’r Saesneg.  Erbyn hyn mae’r defnydd o’r Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg ym mhob dogfen gyhoeddus, ar arwyddion ffyrdd ac ym mhob maes gwybodaeth.

Mae’r Cymry wedi brwydro’n galed ers canrifoedd dros gael cydnabyddiaeth, parch a gwerthfawrogiad i’w hiaith.

Yn yr 21ain ganrif, mae’n orfodol i bob plentyn ysgol sy’n derbyn ei addysg yng Nghymru ddysgu Cymraeg nes ei fod yn 16 oed.  Mae gan oedolion sy’n ddysgwyr fynediad hawdd i’r Gymraeg trwy Raglenni Dysgu Gydol Oes.  Mae’r cyrsiau hyn yn boblogaidd iawn ymhlith mewnfudwyr a’r rhai sydd ag angen gwella eu sgiliau yn yr iaith. Mae’r iaith yn cael ei defnyddio ym maes addysg, wrth sgwrsio, yn y celfyddydau ac ym myd y gyfraith.  Cynhelir eisteddfodau a gwyliau diwylliannol Cymraeg eraill yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i bob oed.  Cynhelir yr eisteddfodau a’r gwyliau ym mhob ysgol, pentref a thref. Mae yna orsafoedd radio a theledu sy’n defnyddio’r Gymraeg fel iaith fwyafrifol.

Mae yna wahaniaethau rhanbarthol yn yr iaith fel ym mhob iaith fyw, a gwahaniaeth clir rhwng Cymraeg y de a’r gogledd, er bod siaradwyr y naill a’r llall yn deall ei gilydd yn iawn.

Mae deall dilysrwydd ein hiaith ein hunain yng Nghymru wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i’n poblogaethau o gefndiroedd ethnig eraill o’r angen i barchu eu mamieithoedd a’u defnyddio pryd bynnag y bo’n briodol. Siaredir llawer o ieithoedd yng Nghymru, yn rhanbarthol ac yn y cartref, o Somaleg i Bwyleg ac Wrdw.

Wrth deithio trwy Gymru, fe glywch sgwrsio cwbl ddwyieithog, fydd yn aml yn newid rhwng y ddwy iaith; os nad yw rhywbeth yn glir yn yr un iaith, defnyddir a derbynnir y llall.

Mae’r iaith wedi ei chadw, ei datblygu, a’i hanwylo ac mae pobl wedi brwydro drosti. Mae’r cariad hwn at “Iaith y Nefoedd” yn rhoi i’r Gymraeg ac i siaradwyr Cymraeg ddealltwriaeth o’r angen i barchu, gwerthfawrogi a defnyddio eich iaith eich hun, boed honno’n iaith fwyafrifol neu leiafrifol.

 

 

Manylion cefndir hanesyddol:

 

 

Tan gyfnod y Tuduriaid, roedd Cymru’n genedl annibynnol gyda’i hiaith ei hun. Yn 1588, cyfieithwyd y Beibl cyfan i’r Gymraeg gan yr Esgob Wiliam Morgan. Gydag arf fel y Beibl cyfan wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, diogelwyd yr iaith a’i dysgu i bawb. Tan hynny, Lladin oedd iaith y Beibl, Saesneg oedd iaith y llys ond Cymraeg oedd iaith y bobl yng Nghymru.

 

Pobl uniaith gan fwyaf oedd y Cymry yn y cyfnod hwn, fel y Saeson, ond Saesneg oedd unig iaith swyddogol y wladwriaeth. Bellach roedd y Beibl a’r Llyfr Gweddi Cyffredin ar gael yn Saesneg, i’w darllen yn holl eglwysi Cymru a Lloegr. Unffurfiaeth oedd trefn y dydd, o ran gwleidyddiaeth, crefydd ac iaith. Byddai’r unffurfiaeth hon yn bygwth bodolaeth yr iaith a hunaniaeth y Cymry a deallodd y llywodraeth yn fuan y byddai’n rhaid dewis rhwng dymuniad y wladwriaeth i gael unffurfiaeth grefyddol ar y naill law, ac unffurfiaeth ieithyddol ar y llall.

Roedd canol y 19eg ganrif yn gyfnod cythryblus yn hanes Cymru. Cafwyd gwrthryfeloedd a therfysgoedd ledled y wlad. Codwyd cwestiynau yn San Steffan ynglŷn â pham roedd y Cymry’n tueddu cymaint at anghyfraith.

Yn ôl rhai, un rheswm posibl oedd bodolaeth y Gymraeg. Cysylltir y cyfnod hwn â’r symbol mwyaf atgas o orthrwm diwylliannol y Saeson, sef y Welsh Not, neu’r Welsh Note.

Roedd plant yn cael eu rhwystro rhag siarad Cymraeg mewn ysgolion trwy ddulliau a oedd yn cynnwys y Welsh Not atgas.

Ar ôl araith yn 1846 gan William Willams, AS o Gymru a oedd yn cynrychioli Coventry, comisiynwyd  adroddiad seneddol ar le’r Gymraeg mewn addysg.

Roedd Williams yn Gymro gwrth Gymraeg a oedd yn poeni am gyflwr addysg yng Nghymru; yn ei farn ef, y Cymry eu hunain oedd ar fai. Teimlai y dylai’r Cymry, “yn hytrach nag ymddangos fel pobl ar wahân, fod yn hollol debyg i’r Saeson" . Ei ateb ef i gyflwr Cymru ar y pryd oedd Seisnigo Cymru o ran ei hiaith a’i meddylfryd. Roedd y Cymry dan anfantais oherwydd “bodolaeth iaith hynafol"!

Roedd llawer yn amau ai tri bargyfreithiwr uniaith Saesneg o Loegr oedd y bobl orau i ymchwilio i unrhyw beth yng Nghymru bryd hynny, yn enwedig yr iaith Gymraeg.

‘Brad y Llyfrau Gleision’ oedd yr enw a roddwyd yng Nghymru i Adroddiadau Comisiynwyr yr Ymchwiliad i Gyflwr Addysg yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 1847.

Yn eu sylwadau ar yr Ysgol Wesleaidd, Wrecsam, meddai’r Comisiynwyr: "Nid yw'r athro erioed wedi'i hyfforddi i addysgu, mae'r arolygwyr yn ddi-glem a'r plant yn anwybodus." Yr hyn nas dywedwyd oedd nad oedd yr athro, yr arolygwyr a’r plant yn deall Saesneg ond eu bod wedi derbyn hyfforddiant cyflawn a'u bod yn llythrennog yn Gymraeg.

Y Deyrnas Gyfunol (dyfyniad 1968 c. 66), a roddodd rai hawliau i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru (gan gynnwys Sir Fynwy) a rhoddodd yr hawl i’r Gweinidog perthnasol awdurdodi cynhyrchu fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfennau a oedd yn ofynnol neu a ganiateid gan y Ddeddf.  Roedd y Ddeddf yn seiliedig ar adroddiad Hughes Parry i statws y Gymraeg, a gyhoeddwyd ym 1965. Roedd yr adroddiad yn dadlau o blaid dilysrwydd cyfartal i’r Gymraeg ar lafar ac mewn dogfennau ysgrifenedig, yn y llysoedd ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

 

Dan y Ddeddf Uno 1535–1542, y Saesneg oedd unig iaith y llysoedd barn ac agweddau eraill ar weinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Roedd Deddf Llysoedd Cymru 1942 wedi rhoi’r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y llys os byddai’r siaradwr Cymraeg dan anfantais trwy orfod siarad Saesneg, ond diffiniwyd hyn yn gul iawn wedyn gan gyfraith achosion.  Dymchwelodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967 y penderfyniadau hyn ac esgorodd ar y cysyniad o ‘ddilysrwydd cyfartal’ i’r Gymraeg a’r Saesneg. Fel canlyniad, dechreuodd Adrannau Llywodraeth baratoi dogfennau yn Gymraeg, ac ar ôl ymgyrch o ddinistrio neu fandaleiddio arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg caniatawyd i gynghorau lleol ddarparu llawer  rhagor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru. Fodd bynnag, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a sefydlodd yr egwyddor ‘ar gyfer busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder, cyhyd ag y bo’n rhesymol ymarferol, dylid trafod y Gymraeg a'r Saseneg ar sail cydraddoldeb’.

 

Yn y bôn, gwnaeth y Ddeddf dri pheth:

  • sefydlodd Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn atebol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyda dyletswydd i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a sicrhau cydymffurfiad â’r darpariaethau eraill
  • rhoddodd hawl i siaradwyr Cymraeg i siarad Cymraeg mewn achosion llys
  • gorfododd bob sefydliad yn y sector cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Yn ddiweddarach, datganolwyd y pwerau a roddwyd dan y Ddeddf hon i Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. O dan y Ddeddf hon, crëwyd Is-ddeddfwriaeth neu Ddeddfwriaeth Ddirprwyedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac yn ddiweddarach, y Cynulliad Cenedlaethol, i orfodi rhagor o gyrff cyhoeddus i baratoi’r hyn a elwir yn Gynlluniau Iaith Gymraeg sy’n dangos eu hymrwymiad i’r egwyddor o drin y ddwy iaith yn gyfartal.

 

 

Wales

EEF Logo

Photo Album

AssocPour_logo.jpg